Faint o broblem i'r curadur Eleri Lynn yw gwyfynod mewn dillad hanesyddol? Problem fawr! Mae ei chasgliad yn cynnwys dros 10,000 o eitemau.
John Evelyn, awdur o'r ail ganrif ar bymtheg, sy'n cael sylw Elin Wyn Williams. Roedd yn un o'r cyntaf i hybu bwyta salad, gan gyhoeddi llyfr am y gwahanol fathau o lysiau ar gyfer saladau, a chynnig cyngor ynghylch sut i greu'r salad perffaith.
Hefyd, Lowri Cooke yn trafod pam ein bod yn aml yn dewis gwylio'r un cyfresi teledu dro ar ôl tro, er gwaetha'r dewis cynyddol. Show less