Ychydig ddyddiau cyn i Lisa Gwilym ddatgelu deugain uchaf diweddaraf gwrandawyr Radio Cymru, mae'n ymuno â Ffion i'ch atgoffa sut i bleidleisio! Mae'n gyfle yn ogystal i ofyn i Rhydian Bowen Phillips beth yw apêl #40Mawr a siartiau eraill i rywun sy'n ymddiddori ym myd canu pop.
Mae mynd i weld deintydd yn codi ofn ar hanner oedolion Prydain, yn ôl ymchwil diweddar, a mae gan ddeuddeg y cant o'r rheini ffobia eithafol. Annest Jones, deintydd o Gricieth, sy'n ceisio darbwyllo Ffion nad oes angen iddi boeni!
Sgwrs hefyd gyda Kelvin Jones, sy'n pwyso a mesur a yw caneuon adar yn mynd yn fwy diflas ac undonog wrth i rywogaethau fynd yn llai. Show less