A yw ciwio i weld atyniadau fel y Mona Lisa'n werth y drafferth? Ar ôl i ymwelwyr â'r Louvre gwyno am gael eu gorfodi i symud ymlaen wedi treulio dim ond rhyw funud o flaen y gwaith paent, mae Arfon Haines Davies yn ymuno â Ffion i drafod. Arfon oedd cyflwynydd Pacio ar S4C, a mae'n sôn am rai profiadau'n siomi, wrth i eraill syfrdanu.
Rhannu'r profiad o gerdded ar hyd arfordir Sir Benfro gyda'i thelyn ar ei chefn mae Delyth Jenkins. Y rhan hwn o Gymru yw'r mwyaf cofiadwy a phrydferth, yn ôl Lonely Planet.
Hefyd, Jane Harries yn sgwrsio am ferched yn dechrau trechu dynion mewn rasys eithafol. Jane yw golygydd cylchgrawn Adventure She. Show less