Beti George a'i gwesteion yn trin a thrafod digwyddiadau'r dydd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, gan gynnwys T James Jones yn ennill y Gadair. Yn ogystal â Jim Parc Nest ei hun, mae'r beirniaid Llion Jones, Ieuan Wyn a Myrddin ap Dafydd hefyd yn gwmni i Beti.
Wrth i'r wythnos dynnu at ei therfyn, mae Betsan Moses, Elen Elis, Trystan Lewis ac Elin Jones yn cael cyfle i edrych yn ôl ar y Brifwyl hon, ac edrych ymlaen at y nesaf yng Ngheredigion yn 2020. Show less