Beti George a'i gwesteion yn trin a thrafod digwyddiadau'r dydd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, gan gynnwys Guto Dafydd yn ennill un arall o'r prif wobrau, sef Gwobr Goffa Daniel Owen. Yn ogystal â Guto ei hun am yr ail ddiwrnod yn olynol, mae'r beirniad Haf Llewelyn, Dyfed Edwards a Llwyd Owen hefyd yn gwmni i Beti.
Trafodaeth arall yw Pierino Algieri, Luned Rhys Parri, Toni Schiavone a Vivian Parry Williams yn pwyso a mesur y berthynas rhwng lle a chelfyddyd. Show less