Beti George a'i gwesteion yn trin a thrafod digwyddiadau'r dydd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, gan gynnwys Gareth Evans-Jones yn ennill y Fedal Ddrama. Yn ogystal â Gareth ei hun, mae'r beirniaid Bethan Marlow, Gethin Evans a Branwen Cennard hefyd yn gwmni i Beti.
Trafodaeth arall yw'r un ar le'r ddrama a chomedi yn yr Eisteddfod erbyn hyn, a hynny gyda Dyfan Roberts, Stifyn Parri a Lorna Prichard. Show less