Gyda thad o Gymru a mam o Ogledd Iwerddon, mae Liam yn fachgen dwyflwydd oed sy'n ynganu sŵn brefu mewn dwy wahanol ffordd. Yr academydd Bethan Siân Tovey sy'n ymuno â Ffion i ddadansoddi.
Trafod On the Red Hill mae Mike Parker, sef ei lyfr yn olrhain hanes ei gartref a'i ffrindiau a oedd yn arfer bod yn berchen ar y tŷ.
Yr holl bobl sy'n mynd i fyny'r Wyddfa erbyn hyn sy'n cael sylw Bethan Wyn Jones, wrth i Dei Huws sôn am effaith y llanw arnom, ac yn arbennig y don enfawr sy'n sgubo ar hyd Afon Hafren yn gyson. Show less