Mae 'na ddathlu ymysg criw myfyrwyr JMJ Bangor wedi iddyn nhw ennill chwe chystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd, ac mae Ffion am wybod beth yw'r gyfrinach!
Wrth i gyfres Love Island ddychwelyd i'r sgrin fach, Elen Mai Nefydd sy'n trafod a ddylai'r math hwn o raglen gael ei darlledu, a pham ei fod yn ennyn ymateb mor begynnol?
Mae delwedd corff yn rhan fawr o'r sgwrs gyda Rhiannon Boyle hefyd, â hithau newydd gael tynnu lluniau noeth i'w hannog i fod yn fwy cyfforddus yn ei chroen.
Hefyd, Gareth Rhys Owen sy'n trafod enghreifftiau o ganlyniadau annisgwyl ym myd chwaraeon, ar ôl i'r bocsiwr Anthony Joshua gael ei guro. Show less