hithau'n 70 mlynedd ers chwyldro China, mae Alis Jones yn sôn am ei phrofiad hi yn yr ysgol yn Hong Kong, yn ogystal â dysgu Mandarin ar y tir mawr.
Sut mae osgoi glaw yw'r cwestiwn i'r daearegwr Cerys Jones, wrth i fwrdd criced Lloegr chwilio am atebion i'r broblem o law yn atal y chwarae.
Hefyd, Anna Jones sy'n apelio ar i drigolion Pen Llŷn gymeryd rhan yn ymgyrch Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, cyn i enwau'r ardal ddiflannu. Show less