Stori Emma Miles o Lanwnnen yn dod yn fam fenthyg i'w merch, Tracey, oherwydd bod cyflwr MRKH yn ei hatal rhag beichiogi.
Yn ogystal â Tracey ac Emma, mae hanes geni Evie Siân yn cael ei adrodd gan ŵr Emma, Adam, ei chwaer Nicola, a'i thad Robert.
Yng nghanol y disgwyliadau, y nerfusrwydd, y gobeithion a'r gorfoledd, Dr. Llinos Roberts a Leah Rhydderch sy'n dehongli cymhlethdodau meddygol a chyfreithiol y sefyllfa. Show less