Ar ymweliad ag ardal Bro Teifi, mae Rhys Meirion yn cwrdd â Vernon Maher, neu Tenor Teifi fel y mae'n cael ei adnabod yn lleol.
Ers canrifoedd, mae cwrwglau wedi cael eu defnyddio ym Mro Teifi i bysgota a denu ymwelwyr, a'r dyn sy'n gwybod popeth am hyn ydy Denzil Davies.
Yn wahanol i nifer o rai eraill, mae Stryd Fawr Aberteifi a'r siopau bach yno wedi llwyddo i oroesi a ffynnu. Un o fusnesau hynaf y dref ydy Becws Queens. Mae Rhys yn cwrdd â'r perchennog, Martin Radley, ac yn cael joban o waith ganddo!
Mae hefyd yn ymweld â chwmni Huit, sy'n cynhyrchu jîns a'u hallforio i bob cwr o'r byd. Show less