Rhys Meirion ar ymweliad ag ardal Llanuwchllyn, yn cwrdd â chymeriadau lleol.
Mae David Jones yn hen ffrind ysgol iddo, sydd bellach yn rheoli Rheilffordd Llyn Tegid.
Yn gyfnod prysur i gwmnïau drama yn y pentref, gyda'r ŵyl ddrama flynyddol ar y gorwel, mae'n sgwrsio â rhai aelodau yn y neuadd.
Ffensio ydy gwaith Gwynant Roberts - cymeriad sy'n adnabod yr ardal fel cledr ei law.
Richard Antur Edwards ddaeth â trydan i Lanuwchllyn ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, a mae ei ŵyr, Huw Antur, yn un o'r hoelion wyth lleol. Mae'n sôn am waith arloesol ei daid.
Mae Rhys hefyd yn cwrdd â chriw hwyliog Tri Gog a Hwntw, sy'n cynnal nosweithiau llawen ar hyd a lled Cymru. Show less