Programme Index

Discover 11,128,835 listings and 282,350 playable programmes from the BBC

Cymry 1914-1918

Heddwch

Duration: 27 o funudau

First broadcast: on BBC Radio CymruLatest broadcast: on BBC Radio Cymru 2

Available for over a year

Yn y rhaglen hon, mae Siân Sutton yn rhoi pwyslais ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a barodd dros bedair blynedd.

Clywn am y llawenydd a'r rhyddhad, ond hefyd am rai a fyddai'n byw hyd ddiwedd eu hoes yng nghysgod y gwrthdaro.

Wrth i rai ddathlu'r cadoediad, roedd Harriet Anne Pritchard yn ei chartref yn Rhuthun yn dygymod â cholli gŵr, ac yn wynebu magu eu plentyn cyntaf ar ei phen ei hun.

Cafodd Bill Pritchard ei eni fis ar ôl i William Griffith Pritchard gael ei ladd ym Mrwydr Cambrai, ac er na welodd ei dad erioed, roedd yn bresenoldeb cyson drwy'i fywyd. Siaradodd ei fam amdano'n aml, ac i Bill roedd yn rhywun i'w efelychu. Show less

About this data

This data is drawn from the data stream that informs BBC's iPlayer and Sounds. The information shows what was scheduled to be broadcast, meaning it was/is subject to change and may not be accurate. More