Programme Index

Discover 11,128,835 listings and 280,694 playable programmes from the BBC

Cymry 1914-1918

Brwydro Olaf

Duration: 27 o funudau

First broadcast: on BBC Radio CymruLatest broadcast: on BBC Radio Cymru 2

Available for over a year

Gyda diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf o fewn cyrraedd, mae'r rhaglen hon yn canolbwyntio ar rai a brofodd y brwydro olaf, a'r colledion hwyr.

Cyn ymuno â'r fyddin, roedd David Samuel Roberts yn löwr a oedd yn byw mewn tyddyn yn Nantgaredig, rhwng Llandeilo a Chaerfyrddin.

Dim ond dyflwydd oed oedd ei ferch, Mary, pan aeth ei thad i Ffrainc yn hydref 1917, ac roedd ei mham, Margaret, yn disgwyl ei hail blentyn.

Ni chafodd David Samuel y cyfle i gwrdd â'i fab, William, a gafodd ei eni ar ôl iddo gyrraedd Ffrainc.

Yn bump ar hugain oed, cafodd David Samuel ei ladd ddeufis cyn y cadoediad.

Ganrif union i'r diwrnod, teithiodd ei nai, Geraint, i Ffrainc, i roi teyrnged i'r ewythr na chafodd gyfle i ddod i'w adnabod. Show less

About this data

This data is drawn from the data stream that informs BBC's iPlayer and Sounds. The information shows what was scheduled to be broadcast, meaning it was/is subject to change and may not be accurate. More