Daeth y Rhyfel Byd Cyntaf â dull newydd o ryfela a lladd, drwy fynd â'r ymladd i'r awyr.
Roedd hedfan yn newydd, y dechnoleg yn gyntefig, a doedd dim disgwyl i beilotiaid fyw'n hir.
Gwasanaethodd rhyw 22,000 o beilotiaid yn lluoedd Prydain yn ystod y Rhyfel. Cafodd hanner ohonyn nhw eu lladd.
Yn y rhaglen hon, cawn hanes rhai Cymry a wasanaethodd yn y math newydd hwn o frwydro.
Unig blentyn oedd yr Is-gapten Rhys Beynon Davies o Henllan, Llandysul. Ar y cyntaf o Fai 1917, roedd yn hedfan mewn awyren Albatross yn ardal Arras, a chafodd ei ladd pan ffrwydrodd y tanc petrol mewn ymosodiad.
Show less