Wrth i drefn ariannol newydd Llywodraeth Cymru ddod i rym, Manylu sy'n dilyn un dyn ifanc wrth iddo baratoi i fynd i brifysgol.
Yn hytrach na grant tuag at ffïoedd, mae'r pwyslais rŵan ar grant i dalu costau byw, a benthyciad i dalu'r ffïoedd.
Mae Deio Jones o Ynys Môn yn gobeithio mynd i astudio yng Nghaerdydd, ond cyn gwneud hynny rhaid ymweld â'r lle, sefyll ei arholiadau, gwneud ei ddewis terfynol, a phenderfynu sut i ariannu'r blynyddoedd nesaf.
Mae'r rhaglen yn clywed gan ffrindiau i Deio sydd yn yr un cwch, ac eraill sydd wedi dewis llwybr gwahanol, fel prentisiaeth er mwyn cael cyflog wrth gael eu haddysgu. Show less