Dwy raglen o'r archif ddigidol, gydag Eddie Ladd yn eu trafod yn ei dull arbennig ei hun.
O 1981 y daw Dyn yw Dyn: Y Llinyn Arian, sy'n edrych ar fywyd Iorwerth Peate ar ei benblwydd yn 80 oed.
Y newyddiadurwr Tom Evans yw cyflwynydd Tapiau Tom, ac yn y bennod hon mae'n holi'r bardd gwlad a'r cymeriad gwerinol Kate Davies, Prengwyn. Show less