Programme Index

Discover 11,128,835 listings and 282,088 playable programmes from the BBC

Pobol y Môr

Llandudoch

Duration: 27 o funudau

First broadcast: on BBC Radio CymruLatest broadcast: on BBC Radio Cymru 2

Ar ymweliad â phentref Llandudoch, mae Alun Elidyr yn cwrdd â theulu sy'n dibynnu ar y môr ac Afon Teifi i ennill eu bywoliaeth.

Ar draeth Poppit, mae'n clywed gan Len Walters am yr anawsterau ynghylch dod â chwch i mewn i'r traeth oherwydd y llanw a natur y bae, a pham ei fod yn dewis y bywyd yma.

Yn ôl adref, mae Mandy Walters yn esbonio sut mae hi'n ychwanegu gwerth i'r ddalfa, gan greu pates ac ati o'r crancod a'r cimychiaid, a'u gwerthu mewn marchnadoedd fferm lleol.

Wrth iddi nosi, mae Alun yn ymuno â Len ac Aaron y mab ar lan Afon Teifi, a hynny wrth iddyn nhw bysgota â chwrwgl.

Mae'r ymweliad hefyd yn gyfle i brofi pa mor drwm yw'r offer, a sut mae adnabod rhywogaeth cranc. Show less

About this data

This data is drawn from the data stream that informs BBC's iPlayer and Sounds. The information shows what was scheduled to be broadcast, meaning it was/is subject to change and may not be accurate. More