Mae nifer yn dweud mai dod â bywyd newydd i'n byd yw un o'r pethau mwyaf anhygoel all ddigwydd i ni, ond anaml mae pobl yn siarad neu'n rhybuddio am y pethau negyddol, a sut i ymdopi ag un o'r newidiadau mwyaf erioed, sef gwarchod bywyd bregus newydd.
Yn y rhaglen hon, mae Mari Elen yn cwrdd â mamau newydd ar draws Cymru, a hynny ar bob cam o'r daith. O'r beichiogrwydd i'r geni, a flwyddyn wedi'r geni, mae'n siarad am yr heriau, gan roi sylw i faterion fel bwydo o'r fron a sut mae'r corff yn newid.
Mae hi hefyd yn rhannu ei phrofiadau personol ei hun, gan drafod sut y goroesodd hi'r cyfnod, a sut mae'n parhau i oroesi nawr. Show less