Mae Rhys Meirion yn mynd am dro i Dalybont yng ngogledd Ceredigion heddiw. Ymhlith y rhai mae'n sgwrsio â hwy mae'r coedwigwr Barry Powell; yr hanesydd lleol a'r ffotograffydd Iestyn Hughes, sydd wedi cofnodi hanes y pentref dros y blynyddoedd drwy gyfrwng ei luniau; a'r ffermwr ifanc Dewi Jenkins. Mae Rhys hefyd yn cael cyfle i glywed pedwarawd newydd o'r ardal yn canu, pedwarawd sy'n prysur wneud enw iddyn nhw eu hunain ar hyd a lled Cymru, sef Bois y Fro. Show less