Fersiwn newydd o hen ffefryn gyda Rhys Meirion yn cwrdd â chymeriadau wrth grwydro Cymru.
Mae Rhys yn teithio i Amlwch yng ngogledd Sir Fôn i gwrdd â rhai o drigolion y dref. Mae yn ei elfen wrth gyfarfod ag un o ffans mwyaf y tenor enwog Richie Thomas, ac yn cael cyfle i ganu rhai o'r caneuon a wnaeth Richie Thomas yn un o denoriaid mwyaf poblogaidd yr ugeinfed ganrif. Show less