Gwyddoniaeth a'r Gymraeg sy'n clymu gwesteion Nia Roberts yn y rhaglen hon, wrth iddi sgwrsio â'r llawfeddyg Dr Awen Iorwerth a'r Athro Deri Tomos o Brifysgol Bangor.
Cafodd Deri ei eni yng Nghaerdydd, cyn symud i weithio yn y gogledd, tra mudodd Awen i dde Cymru o'r gogledd.
Mae Deri yn arwr i Awen, gan mai fe wnaeth ei hysbrydoli i fod â'r hyder i geisio cynnwys rhagor o Gymraeg ym myd meddygaeth. Show less