Hanner canrif ers Deddf Erthylu 1967, dyma edrych ar effaith un o ddeddfau mwyaf dadleuol y cyfnod ar ferched a chymunedau yng Nghymru.
Wedi i'r Ddeddf ddod i rym, roedd gan ferched yng ngwledydd Prydain - ag eithrio Gogledd Iwerddon - yr hawl i gael erthyliad ar y Gwasanaeth Iechyd hyd at 24 wythnos ar ôl beichiogi. Mae 'na ddadlau wedi bod yn y cyfamser am gyfyngu i 22 neu 20 wythnos, ond does dim wedi newid hyd yma.
Pa mor ysgytwol oedd y trobwynt hwn, mewn gwirionedd, yn enwedig yng nghyd-destun Cymru? A oedd y wlad hon a'i phobl yn barod ar gyfer y fath newid? A beth ydi'r teimladau bum degawd yn ddiweddarach?
Sue Jones-Davies sy'n cyflwyno. Show less