Hanner canrif ers Deddf Troseddau Rhywiol 1967, dyma hanes hawliau dynion hoyw yn y Deyrnas Unedig.
Serch bod y gyfraith wedi newid bryd hynny, roedd pethau ymhell o fod yn rhwydd, wrth i'r rheolau newydd gynnwys bod yn rhaid i unrhyw ddyn fod dros 21 oed cyn cytuno i gael rhyw gyda dyn arall yn breifat. 16 oedd yr oedran cyfreithiol fel arall.
Mae'r rhaglen hon yn mynd â ni yn ôl i'r cyfnod hwnnw, i roi syniad o sut beth oedd bod yn hoyw yng Nghymru yn 1967. A oedd bywyd yn well wedi'r newid, neu yn waeth?
Owain Williams, y cyflwynydd rhaglenni plant a phobl ifanc sydd wedi graddio yn y gyfraith, sy'n cyflwyno. Show less