Mae'r bilsen atal cenhedlu wedi'i disgrifio droeon fel un o ddatblygiadau meddygol mwyaf arwyddocaol yr ugeinfed ganrif.
Dim ond i ferched priod yr oedd hi ar gael pan gafodd ei chyflwyno ym Mhrydain ar y Gwasanaeth Iechyd yn 1961, ond fe newidiodd hynny yn 1967.
Hanner canrif yn ddiweddarach, Elin Hefin sy'n edrych ar sut gyfnod oedd hwn i ferched sengl yng Nghymru, wrth i'r bilsen a ffordd newydd o fyw ddod ar gael i bawb. Show less