Beth bynnag y tywydd, mae John Hardy yn addo awr ddifyr yng nghrombil archif Radio Cymru.
Mae'r pytiau'n cynnwys Mark Morgan o Lansawel yn sôn am daith i'r Antarctig mewn tywydd a oedd 46 gradd o dan sero, a T James Jones yn adrodd rhan o'r bryddest radio Sŵn y Gwynt sy'n Chwythu gan J Kitchener Davies.
Sôn am gael ei ddal mewn trowynt yn Oklahoma mae Gwyn L Williams, wrth i Hywel Gwynfryn holi Owen Slaymaker am eira mawr 1947.
Hefyd, stori Edgar Christian o Gaernarfon gan John Williams Hughes. Show less