Stori rhes o dai ger Abercraf ar gyfer Basgiaid o Bilbao a ddaeth i weithio'n y gwaith glo lleol ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Mae'r bythynnod yn cael eu galw'n Spanish Row hyd heddiw, ymhell dros ganrif yn ddiweddarach.
Dysgodd yr ymwelwyr Gymraeg, a dysgodd nifer o'r Cymry lleol rywfaint o Sbaeneg. Yn wir, cymaint oedd y frawdoliaeth rhwng y ddwy garfan, aeth rhai o lowyr yr ardal gyda'r Basgiaid i Sbaen pan ddychwelodd nifer i frwydro'n erbyn Francisco Franco yn y Rhyfel Cartref.
Dyma hanes Spanish Row, ei phobl, a'u dylanwad nhw ar yr ardal. Show less