Mae'n ddiwrnod mawr i Hilda wrth i Carol drefnu i'r ddwy fynd i weld cartref Bryn Hafod, ond mae mwy nag un person yn cadw llygad barcud ar eu symudiadau.
Ers i Peter fod yn gweld Hilda i holi am Gwilym, mae hi'n cael ei thynnu fwyfwy yn ôl i'r gorffennol.
Yn 1951, mae'r Hilda Parry ifanc yn parhau gyda'i haseiniad newydd, ac yn cadw cwmni i Gwilym yn Llundain. Ond beth sy'n poeni Hilda yn y presennol am ei hymddygiad bryd hynny?
Awdur: Tudur Owen.
Hilda: Christine Pritchard.
Carol: Catrin Mara.
Mac: Bryn Fôn.
Hilda Parry: Lois Meleri-Jones.
Gwilym: Sion Daniel Young.
Peter: Aneirin Hughes. Show less