Programme Index

Discover 11,128,835 listings and 281,454 playable programmes from the BBC

Tra Bo Dau

Iwan Roberts ac Eirian Owen

Duration: 54 o funudau

First broadcast: on BBC Radio CymruLatest broadcast: on BBC Radio Cymru 2

Efallai nad ydi'r cysylltiad rhwng y ddau sydd yn gwmni i Nia Roberts yn y rhaglen hon yn un amlwg, ond mae'r ddau yn enwog am ddiddanu'r genedl ar lwyfannau gwahanol iawn. Wrth i'r naill ddefnyddio ei dwylo ym maes cerddoriaeth, roedd y llall yn dibynnu ar ei draed i gicio pêl, ond y ddau yn perfformio ac yn gorfod wynebu beirniadaeth gyhoeddus.

Castell Harlech ydi'r lleoliad ar gyfer y sgwrs gydag Eirian Owen ac Iwan Roberts, ei nai. Mae'r ddau yn hel atgofion wedi colli brawd a thad yn ifanc, ac mae'n amlwg wrth iddyn nhw wneud eu bod yn deulu agos. Er bod Eirian bron yn 20 oed pan gafodd Iwan ei eni, roedd sawl cyfle i fod yng nghwmni ei gilydd wrth i Iwan ymweld ag aelwyd cartref ei fodryb yn y Wern Ddu yn Llanuwchllyn.

Un profiad cyffredin ydi'r ffaith i'w gyrfaoedd fynd â nhw dros y ffin. Roedd Iwan yn ifanc iawn pan ddigwyddodd hynny, ac mae Eirian yn dweud ei bod yn llawn edmygedd ohono'n mynd i Watford yn 16 oed. Fyddai hi ddim wedi medru gwneud hynny mor ifanc, ond yn ystod ei gyrfa hithau daeth cyfle i adael ei swydd yn Ysgol y Gader a dechrau ar bennod newydd ym Manceinion.

Dydi Iwan ddim yn gerddor. Roedd ei dad, ar y llaw arall, yn aelod ffyddlon o Gôr Godre'r Aran, a hynny mae'n debyg oherwydd i Gwynedd ac Eirian gael eu magu ar aelwyd gerddorol iawn. Ond fel Eirian, mae Iwan yn cael ei ystyried yn berson trwsiadus, ac mae'r barf enwog yn rhan o'i ddelwedd. Maen nhw hefyd yn trafod ofergoeliaeth - rhywbeth sy'n golygu llawer i Iwan, ond ddim i Eirian - a pherffeithrwydd, sy'n medru mynd ar nerfau Eirian oherwydd ei fod mor bwysig iddi.

Fel sy'n digwydd yn ystod sgyrsiau Tra Bo Dau, mae'r cwmni'n dod i sywleddoli'n raddol eu bod yn debycach i'w gilydd na'r hyn yr oedden nhw'n ei feddwl, ac mae Nia'n ffarwelio â'r ddau wedi mwynhau yn fawr. Show less

About this data

This data is drawn from the data stream that informs BBC's iPlayer and Sounds. The information shows what was scheduled to be broadcast, meaning it was/is subject to change and may not be accurate. More