Programme Index

Discover 11,128,835 listings and 281,556 playable programmes from the BBC

Straeon Bob Lliw

Cardi Noir

Duration: 30 o funudau

First broadcast: on BBC Radio CymruLatest broadcast: on BBC Radio Cymru

Mae Aberystwyth a Cheredigion yn enwog i ddilynwyr straeon noir ledled y byd, gyda thirwedd yr ardal yn un o gymeriadau answyddogol cyfres ddrama Y Gwyll / Hinterland. Yn yr un modd ag y daeth 'Nordic Noir' yn derm am gyfresi dirgelwch Sgandinafaidd, mae nifer yn defnyddio 'Cardi Noir' i ddisgrifio'r hyn sydd ar droed yng Ngheredigion. Ond nid dyma'r enghraifft gyntaf.

Mae nifer o awduron a sgriptwyr wedi gosod Aberystwyth a Cheredigion yn gefndir i'w straeon ditectif a dirgelwch dros y blynyddoedd. Ymhlith yr enghreifftiau mae nofelau'r awdur Saesneg Malcolm Pryce am y ditectif preifat Louis Knight; cyfres yr awdur Cymraeg Geraint Evans am y ditectif Gareth Prior a'i dîm; a nofel ddirgelwch Fflur Dafydd, Y Llyfrgell, sydd hefyd yn ffilm wedi'i gosod yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Mae'n debyg mai'r enghraifft gyntaf o 'Cardi Noir' oedd Yr Heliwr yn 1992, sef ffilm dditectif gyda Philip Madoc yn actio DCI Bain. Lyn Ebenezer a Sion Eirian oedd yn gyfrifol am y syniad gwreiddiol, a chyhoeddodd Lyn ddwy nofel yn seiliedig ar y ffilm. Fel Y Gwyll, cafodd fersiwn Gymraeg a Saesneg eu ffilmio ochr yn ochr, ac arweiniodd y ffilm at gyfres deledu o'r enw A Mind To Kill ar Channel 5 rhwng 1994 a 2002. Cafodd ei gwerthu i 24 o wledydd.

Mali Harries, yr actores sy'n portreadu DI Mared Rhys yn Y Gwyll, sy'n mynd ar drywydd 'Cardi Noir' yn y rhaglen hon, ac yn ceisio datrys y dirgelwch ynglŷn â pham fod Aberystwyth a gogledd Ceredigion yn denu cynifer o awduron.

Ymysg y tystion mae'r awduron Lyn Ebenezer, Geraint Evans a Fflur Dafydd, ynghyd ag Ed Thomas a Paul Davies o dîm cynhyrchu Y Gwyll. Show less

About this data

This data is drawn from the data stream that informs BBC's iPlayer and Sounds. The information shows what was scheduled to be broadcast, meaning it was/is subject to change and may not be accurate. More