Programme Index

Discover 11,128,835 listings and 281,454 playable programmes from the BBC

Tra Bo Dau

Rhys Mwyn ac Ian Morris

Duration: 54 o funudau

First broadcast: on BBC Radio CymruLatest broadcast: on BBC Radio Cymru

Stiwdio Foel yn Llanfair Caereinion ydi'r lleoliad ar gyfer y sgwrs hon gyda dau sy'n gyfarwydd iawn â'r lle, sef Rhys Mwyn ac Ian Morris. Yno y cafodd Cam o'r Tywyllwch ei recordio, a dau o'r grwpiau a oedd yn rhan o'r casgliad hwnnw yn 1985 oedd Anhrefn a Tynal Tywyll. Roedden nhw'n grwpiau gwahanol iawn, o ran eu hedrychiad yn ogystal ag arddull eu cerddoriaeth, ond yn rhan o griw o Gymry Cymraeg a oedd yn benderfynol o weld pethau'n newid yn y 1980au.

Wrth siarad â Nia Roberts, mae Ian yn bendant ei farn na fyddai Tynal Tywyll wedi para'n hir iawn oni bai am Rhys. Edrychiad y grŵp oedd yn bwysig i Rhys pan ddechreuodd y bartneriaeth, ac mae yntau'n barod i ddweud nad oedd yn poeni rhyw lawer os oedd Ian yn medru canu ai peidio. Doedd o ddim yn gwybod bryd hynny am Ian yn canu fel angel pan oedd yn blentyn.

Cawn hanes yr enw Tynal Tywyll, yn ogystal â'r enw Rhys Mwyn. I Nic Parry mae'r diolch am hwnnw, a'r jôc am flynyddoedd oedd ei fod yn enw camarweiniol! Mae Nia'n dweud ei bod hi'n un o'r rhai a fyddai'n teimlo fymryn yn ofnus yng nghwmni Rhys bryd hynny, ac mae Rhys yn barod i dderbyn hynny. Mae'n anodd credu mai dyma'r dyn sydd bellach wrth ei fodd yn mynd i nosweithiau Merched y Wawr i siarad am archeoleg. Er hynny, mae o ac Ian yn credu i bobl gael rhywfaint o gamargraff. Mae'r ddau yn dadlau eu bod nhw'n credu'n gryf mewn newid pethau, a nad oedden nhw'n ddadleuol dim ond er mwyn bod yn ddadleuol.

Gyda'r ddau bellach yn rhieni, mae Ian yn edrych ymlaen at weld Rhys yn rheoli bandiau'n cynnwys eu plant nhw. Mae'n sôn am ei fab Moi yn caru Sŵnami, a'i fod yn sicr y bydd Moi mewn grŵp roc Cymraeg.

Yn hynach ac yn aeddfetach, dyma ddau sydd wedi mynd i gyfeiriadau gwahanol iawn ers y 1980au, ond sy'n dal yn mwynhau bod yng nghwmni ei gilydd. Show less

About this data

This data is drawn from the data stream that informs BBC's iPlayer and Sounds. The information shows what was scheduled to be broadcast, meaning it was/is subject to change and may not be accurate. More