Gyda Chymru'n cystadlu yn un o brif gystadlaethau pêl-droed y byd am y tro cyntaf ers 1958, mae’r gyfres hon yn dilyn ymdrechion rhai pêl-droedwyr ifanc talentog i adael eu hôl ar faes hynod gystadleuol.
Pa fath o ymdrech ac aberth sydd ei angen - nid yn unig gan y pêl-droedwyr gobeithiol, ond gan y rhieni hefyd? Fe glywn ni am brofiadau rhai teuluoedd, yn ogystal â'u gobeithion a’u pryderon.
Ac yn Uwch Gynghrair Lloegr, mae Academi Clwb Pêl-droed Abertawe'n ceisio datblygu talent ar gyfer y dyfodol mewn byd sydd â ffin denau iawn rhwng llwyddiant a methiant.
Ai dagrau o dristwch neu lawenydd fydd ar ben draw’r daith i droi chwarae pêl-droed yn yrfa? Show less