Geraint Jarman fydd gwestai cyntaf Geraint Lovgreen yn y rhaglen yma wrth iddo drafod ei gân deyrnged i Saunders Lewis, "Nos da Saunders".
Un arall o’r drindod fu’n gyfrifol am losgi’r Ysgol Fomio ym Mhenyberth nôl ym 1936, D.J. Williams, fydd testun cân Dafydd Iwan, "Y wên na phlya amser", ac yna o’r "wên" at yr "Hogan glên"; bydd Gwyneth Glyn yn datgelu pwy yn union wnaeth ysbrydoli’r gân.
Cleif Harpwood fydd yn cloi’r rhaglen yn esbonio hanes cân Edward H Dafis, "Smo fi ishe mynd". Show less