Heddiw ar Manylu, Anna-Marie Robinson sydd yn ymchwilio ymhellach ar ôl i grwp o ffrindiau oedd yn ysgol gyda'u gilydd yn y 60'au i gyd gael deiagnosis o diwmor ar yr ymennydd yn y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae’r cyn-ddisgyblion o Ysgol Ardudwy, Harlech, yn eu chwedegau erbyn hyn, a bu farw un ohonyn nhw yn gynharach eleni.
Maen nhw'n credu bod eu salwch yn fwy na cyd-ddigwyddiad ac yn galw am ymchwil i weld be all fod wedi eu hachosi. Show less