Crud Ymneilltuaeth Cymru
Rhaglen Ddramatig gan Picton
Davies
Yn Llanfaches, Mynwy, yn 1639, y sefydlwyd yr achos Ymneilltuol cyntaf yng Nghymru, dan weinidogaeth William Wroth , gwr oedd wedi bod cyn hynny yn offeiriad y plwyf hwnnw. Fe ddethlir y trichan mlwyddiant y mis hwn, pan fydd Undeb yr Annibynwyr yng Nghaerdydd. Yn y rhaglen hon fe roddir cipolwg ar rai o ddigwyddiadau cyffrous yr oes honno, a hefyd ar hanes Annibyniaeth wedi hynny hyd at Williams o'r Wern, Hiraethog, Herber ym mrwydr '68, a Thanymarian yn arwain Cymanfa Ganu.
Y cyfarwyddo gan T. Rowland
Hughes
(' Llanfaches, 1639—The Cradle of Welsh Nonconformity '—a feature programme)