(In Praise of Wales)
'Caraf ei morfa a'i mynyddedd,
A'i chaer ger ei choed a'i chain diredd,
A'i dolydd a'i dwfr a'i dyffrynnedd, A'i gwylain gwynion, A'i gwymp wragedd
Hywel ab Owain Gwynedd
Yn y rhaglen hon, rhoddir dyfyniadau o len. Cymru ar hyd yr oesau -yn canmol rhyw arwedd ar y wlad neu ei bywyd. Dechreuir gyda molawd y Tywysog Hywel ab Owain Gwynedd i Gymru, a deuir i lawr hyd at ein dyddiau ni. Gosodir barddoniaeth, rhyddiaith, a cherddoriaeth o dan dreth i ddangos fel y mae cariad at Gymru wedi byw a blodeuo ar hyd y canrifoedd
Cyfarwyddwr, Sam Jones
Y Rhaglen wedi ei pharatoi gan :
E. Morgan Humphreys , W. Ambrose
Bebb, a Tom Parry